1 Chronicles 24

Trefnu'r grwpiau o Offeiriaid

1Dyma sut cafodd disgynyddion Aaron eu rhannu'n grwpiau:

Meibion Aaron:

Nadab, Abihw, Eleasar, ac Ithamar.

2(Buodd Nadab ac Abihw farw cyn eu tad, a doedd ganddyn nhw ddim plant. Roedd Eleasar ac Ithamar yn gwasanaethu fel offeiriaid.)

3Dyma Dafydd, gyda help Sadoc (oedd yn ddisgynnydd i Eleasar), ac Achimelech (oedd yn ddisgynnydd i Ithamar), yn rhannu'r offeiriaid yn grwpiau oedd â chyfrifoldebau arbennig. 4Roedd mwy o arweinwyr yn ddisgynyddion i Eleasar nag oedd i Ithamar, a dyma sut cawson nhw eu rhannu: un deg chwech arweinydd oedd yn ddisgynyddion i Eleasar, ac wyth oedd yn ddisgynyddion i Ithamar. 5Er mwyn bod yn deg, cafodd coelbren ei ddefnyddio i'w rhannu nhw, fel bod pob un oedd yn gwasanaethu yn arweinwyr yn y cysegr wedi eu dewis gan Dduw. 6Dyma'r ysgrifennydd, Shemaia fab Nethanel (oedd yn Lefiad) yn ysgrifennu'r enwau i gyd o flaen y brenin, ei swyddogion, Sadoc yr offeiriad, Achimelech fab Abiathar, ac arweinwyr yr offeiriad a'r Lefiaid. Roedd un yn cael ei ddewis drwy ddefnyddio coelbren o deulu Eleasar, ac yna'r nesaf o deulu Ithamar.
7A dyma'r drefn fel cawson nhw eu dewis:

1. Iehoiarif 13. Chwpa
2. Idaïa 14. Ieshebëab
3. Charîm 15. Bilga
4. Seorîm 16. Immer
5. Malcîa 17. Chesir
6. Miamin 18. Hapitsets
7. Hacots 19. Pethacheia
8. Abeia 20. Iechescel
9. Ieshŵa 21. Iachin
10. Shechaneia 22. Gamwl
11. Eliashif 23. Delaia
12. Iacîm 24. Maaseia

19A dyna'r drefn roedden nhw'n gwneud eu gwaith yn y deml, yn ôl y canllawiau roedd Aaron, eu hynafiad, wedi eu gosod, fel roedd yr Arglwydd Dduw wedi dweud wrtho.

Gweddill y Lefiaid

20Dyma weddill y Lefiaid:

Shwfa-el, o ddisgynyddion Amram;
Iechdeia, o ddisgynyddion Shwfa-el;
21Ishïa, mab hynaf Rechabeia, o ddisgynyddion Rechabeia.
22Shlomoth o'r Its'hariaid;
Iachath, o ddisgynyddion Shlomoth.

23Disgynyddion Hebron:

Ierïa yn arwain, yna Amareia, Iachsiel, ac Icameam.

24Disgynyddion Wssiel:

Micha, a Shamîr (un o feibion Micha).

25Brawd Micha:

Ishïa, a Sechareia (un o feibion Ishïa)

26Disgynyddion Merari:

Machli a Mwshi.

Mab Iaäseia:

Beno.

27Disgynyddion Merari, o Iaäseia:

Beno, Shoham, Saccwr ac Ifri.

28O Machli:

Eleasar, oedd heb feibion.

29O Cish:

Ierachmeël.

30Disgynyddion Mwshi:

Machli, Eder, a Ierimoth.

(Y rhain oedd y Lefiaid, wedi eu rhestru yn ôl eu teuluoedd.)

31Yn union fel gyda'i perthnasau yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, cafodd coelbren ei ddefnyddio o flaen y Brenin Dafydd, Sadoc, Achimelech, penaethiaid teuluoedd, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Doedd safle ac oedran ddim yn cael ei ystyried.

Copyright information for CYM